|
1,(2,3,(4)); 1,5,(6); 1,7.
Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn;
Myfi yn dlawd, heb feddu dim,
Ac yntau'n rhoddi popeth im'.
Anturia, 'nghalon euog ddu,
At orsedd gras yn awr yn hy';
Mae'r fainc yn rhydd,
a'r rhodd yn rhad
I'r sawl a gredo yn ei waed.
Mae gras yn rhyw anfeidrol stôr,
A doniau ynot fel y môr;
O, gâd i'r truenusaf ddyn
Gael profi gronyn
bach o'u rhin.
Yn rhad rhaid it' roi'r cwbl im,
Ni feddaf werth, na nerth, na grym;
'Nol rhoddi, eilwaith trefnu'm gras,
'Mhob brwydr cyn'r ennillwy'r maes.
Y bywyd 'rwyf yn awr yn fyw
Sy'n llawn hapusrwydd o bob rhyw;
Hapusrwydd yw, O! dwedwch pwy
A wela ddiwedd arno mwy?
Mae'n brysio at bryd
i ganu'r gân,
Concwest gelynion, fawr a mân;
Cànir ni'n wyn,
ni fyddwn iach
O'n pechod oll 'mhen gronyn bach.
Ei ganmol bellach wnaf o hyd,
Heb dewi mwy
tra bwy'n y byd;
Dechreuais gan a bery'n hwy
Nag y ceir
diwedd arni mwy.
'rwyf yn awr yn fyw :: ŷm yn awr yn fyw - - - - - (Crist a Phechadur)
Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
Myfi yn llwm a Iesu'n llawn;
Myfi yn dlawd heb feddu dim,
Ac yntan'n rhoddi pob peth im'.
Cymer fi Iesu, fel yr wy',
Cuddia fi yn dy nefol glwy';
Can's dyna'r graig
y gwnaf fy nyth,
'Does neb yn ofni yno byth.
Melus fel mana'r nefoedd fry,
Yw hyfryd hedd f'anwylyd cu;
Mwynhad o'i gariad Ef a'i ras,
Na'r diliau mêl
sy'n well ei flas.
Gâd i mi dreulio'm dyddiau i gyd,
I edrych ar dy wyneb pryd,
Difyru'm hoes o awr i awr,
I garu fy Eiriolwr mawr.
- - - - -
Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn;
Myfi yn dlawd, heb feddu dim,
Ac yntau'n rhoddi popeth im'.
Mae rhyfeddodau rif y dail,
Ym mherson hynod Adda'r ail;
Difyrwch penaf
nef y nef
Yw edych ar ei degwch Ef.
Rhogori ar ddeng
mil mae'i wedd,
'Rwy'n llawn foddloni ar Ei hedd;
'Dwy'n 'mofyn pleser tan y nef,
Ond digon o'i gyfeillach Ef.
Pan byddwn'n gorwedd tan fy maich,
Heb gymhorth gan ddaearol fraich,
Wel dyma'r pryd fy Arglwydd mae
Yn arfer hoffi trugarhau.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Bendigaid fyth fo enw Duw Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd Mae rhyfeddodau rîf y dail Nid yw hyfrydwch cnawd a byd O Frenhin mawr tragwyddol cun O Iesu mawr y Meddyg gwell O nertha'm henaid gwan ei ffydd O'r diwedd fe iachaed fy nghlwy' Pechadur wyf da gwyr fy Nuw 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' Wrth droi fy ngolwg yma i lawr Yr Oen a laddwyd ydyw rhan |
Here is a very delightful covenant,
I bare and Jesus full;
I poor, not possessing anything,
And he giving everything to me.
Venture, my black, guilty heart,
To the throne of grace now boldly;
The bench is accessible,
and the gift is free
To those who believe in his blood.
Grace is a kind of infinite store,
With waves in thee like the sea;
O let the most wretched man
Get to taste a small
grain of their merit.
Freely thou must give it all to me,
I posses no value, or strength, or force;
After giving, again provide me grace,
In every battle until the field is won.
The life I am now living
Is full of happiness of every kind;
Happiness it is, oh, tell: Who
Can see an end to it henceforth?
It is hurrying to the time
for singing the song,
Of conquest of enemies, great and small;
We are to be bleached white,
we shall be whole
From all our sins after a little while.
Praise him further I will do still,
Without keeping quiet
while I am in the world;
I began a song which will continue later
Nor will there be
henceforth an end to it.
I am now living :: we are now living - - - - - (Christ and a Sinner)
Here is a very delightful covenant,
I bare and Jesus full;
I poor without possessing anything,
And he giving everything to me.
Take me Jesus, as I am,
Hide me in thy heavenly wound;
Since there is the rock
I will make my nest,
There is no-one fearing there ever.
Sweet like the manna of the heavens above,
Is the delightful peace of my dear beloved;
Enjoyment of His love and his grace,
Than the combs of honey
it's taste is better.
Let m spend all my days,
To look upon thy countenance,
Comfort my lifespan from hour to hour,
To love my great Intercessor.
- - - - -
Here is a very delightful covenant,
I bare and Jesus full;
I poor without possessing anything,
And he giving everything to me.
There are wonders numerous as the leaves,
In the remarkable person of the second Adam;
The chief enjoyment
of the heaven of heaven
Is to look upon His fairness.
More excellent than ten
thousand is his countenance,
I am fully satisfied with His peace;
I ask for no pleasure under heaven,
But sufficient from His friendship.
When I am lying under my burden,
Without support from an earthly arm,
See, here is the time my Lord is
In the practice of favouring mercies.
tr. 2009,14 Richard B Gillion
|
|